Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru
Telerau ac Amodau Aelodaeth

Telerau ac Amodau Aelodaeth

Bwriedir i’r ddogfen hon nodi’r berthynas rhwng Tai Pawb, y darparwr aelodaeth, a chi, yr aelod. Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at ‘aelodau’ yn cynnwys pob categori aelodaeth, gan gynnwys cefnogwyr unigol a masnachol. Rydym yn gobeithio y gallwn weithio fel partneriaid, gyda’r naill ochr a’r llall yn elwa o’r profiad.

1. Aelodaeth

Mae aelodaeth o Tai Pawb a mynediad at wasanaethau a buddion yn berthnasol i’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan eich sefydliad ac aelodau eich bwrdd, ond nid yw’n cynnwys unrhyw un dan gontract allanol gan eich sefydliad, er bod croeso iddynt ymuno â Tai Pawb yn annibynnol fel cefnogwyr masnachol neu gategori aelodaeth perthnasol arall.

I sicrhau’r buddion gorau o’ch aelodaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei hyrwyddo i’ch staff ac yn siarad â ni am ffyrdd y gallem eich helpu i gyfleu’r neges honno.

Er ein bod yn croesawu ceisiadau aelodaeth gan amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion, rydym yn disgwyl i’r holl ymgeiswyr am aelodaeth alinio â gwerthoedd Tai Pawb o weithio gyda sefydliadau i leihau rhagfarn, anfantais a thlodi sy’n ymwneud â thai. O’r herwydd, rydym yn cadw’r hawl i wrthod neu ganslo aelodaeth i unrhyw sefydliad neu unigolyn y mae’n ymddangos nad ydynt yn alinio â’n gwerthoedd.

2. Dechrau a Gorffen Aelodaeth

Mae ein blwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 1 Ebrill hyd at 31 Mawrth y flwyddyn ddilynol.

Os ydych yn dechrau eich aelodaeth hanner ffordd drwy’r flwyddyn fel aelod newydd, mae’n bosibl y byddwn yn cytuno ar ffi pro rata gyda chi. Nid yw ffioedd pro rata ar gael i gyn-aelodau neu aelodau sy’n adnewyddu eu haelodaeth.

Ar ddiwedd y flwyddyn aelodaeth, byddwn yn eich ailgofrestru yn awtomatig am flwyddyn arall. Os ydych yn penderfynu rhoi’r gorau i’ch aelodaeth, cysylltwch â’r Tîm Aelodaeth yn info@taipawb.org / 02921 057 957 cyn gynted â phosibl cyn diwedd y flwyddyn aelodaeth. Os nad ydych yn ein hysbysu ynghylch eich aelodaeth cyn 30 Ebrill, byddwch yn atebol i dalu’r ffi aelodaeth lawn ar gyfer y flwyddyn honno.

Os ydych yn penderfynu dod â’ch aelodaeth i ben hanner ffordd drwy’r flwyddyn aelodaeth, ni fyddwn yn gallu rhoi ad-daliad rhannol neu lawn o’r ffi.

3. Sefydliadau Cyswllt

Lle bydd gwasanaethau Tai Bawb yn cael eu darparu gan un o’n Sefydliadau Cyswllt, mae’r sefydliad aelod sy’n contractio’r gwasanaeth yn cytuno na fydd yn comisiynu’r sefydliad cyswllt yn uniongyrchol ar gyfer unrhyw waith pellach heb fynd drwy Tai Pawb, yn ystod yr amser y mae’r Sefydliad Contract wedi’i gontractio gan Tai Pawb ac am o leiaf 12 mis yn dilyn unrhyw gontract a derfynir rhwng Tai Pawb a’r Sefydliad Cyswllt. Gall sefydliadau gysylltu â Tai Pawb i ofyn i gael eu heithrio o’r rheol hwn os ydynt yn teimlo ei fod yn briodol, er enghraifft os nad yw’r gwasanaeth sy’n cael ei gontractio yn wasanaeth y gallai Tai Pawb ei ddarparu fel arall.

4. Newid manylion

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt neu anfoneb yn cael eu cyfathrebu i ni cyn gynted â phosibl, ynghyd ag unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich band aelodaeth.

5. Cyhoeddusrwydd

Rydym yn rhestru enwau a logos ein haelodau ar ein gwefan ac mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r manylion hyn ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill i hysbysebu ein gwasanaethau. Gallwn hefyd helpu i hyrwyddo eich gwaith sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rydym yn croesawu unrhyw hysbysiad am waith sydd ar ddod.

Yn yr un modd, mae gennych hawl i hysbysebu’r ffaith eich bod yn aelod o Tai Pawb, a byddem yn hapus i gynnig cymorth gydag unrhyw ohebiaeth i egluro beth y mae hyn yn ei olygu i’ch rhanddeiliaid.

Gall cefnogwyr masnachol Tai Pawb ddefnyddio ein logo ‘Cefnogwr Masnachol’ a gall pob aelod arall ddefnyddio ein logo ‘Aelod o’ gyda’ch deunydd cyhoeddusrwydd, yn unol â’n canllawiau brand, i sicrhau’r defnydd cywir ohono. Gallwn ddarparu’r rhain ar gais: anfonwch e-bost at: Info@taipawb.org.

6. Adnoddau

Mae gan yr aelodau yn y rhan fwyaf o’r categorïau hawl i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein sydd wedi’u gwarchod gan gyfrinair. Ni chewch rannu’r cyfrinair hwn na chopïo’r adnoddau hyn gydag unrhyw un y tu hwnt i’ch sefydliad, gan gynnwys contractwyr neu randdeiliaid allanol.

7. Gwasanaethau Aelodau

Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu unrhyw wasanaethau y gwneir cais amdanynt, ond mae’r holl wasanaethau aelodau yn cael eu darparu yn amodol ar ein hargaeledd, ac rydym yn cadw’r hawl i beidio â darparu gwasanaeth os nad oes gennym y capasiti neu’r sgiliau gofynnol i wneud hynny, neu nid ydym yn gallu eu caffael. Os bydd sefyllfa o’r fath yn codi, byddwn yn gwneud ein gorau i weithio gyda chi i ganfod ateb sy’n gweithio i’r naill ochr a’r llall. Rydym yn annhebygol o allu darparu gwasanaethau a archebwyd ar ôl 31 Ionawr mewn unrhyw flwyddyn aelodaeth cyn diwedd y flwyddyn aelodaeth honno. Os archebir gwasanaethau ar ôl 31 Ionawr, efallai y bydd yn rhaid eu darparu yn y flwyddyn aelodaeth ganlynol. Codir tâl ar y lefel ffi am wasanaethau neu bydd yn cael ei gymryd o’r buddion aelodaeth ar gyfer y flwyddyn aelodaeth y maent yn cael eu darparu ynddi.

Ar gyfer y gwiriad iechyd 1 diwrnod neu’r gwasanaeth ychwanegol hanner diwrnod, byddwn yn treulio hyd at y swm hwnnw o amser ar y gwasanaeth, yn ôl yr angen.

I gael rhestr lawn o’r gwasanaethau aelodaeth sydd ar gael ar gyfer eich categori aelodaeth, mae’r wybodaeth berthnasol i’w gweld ar ein gwefan.

8. Cysylltu

Eich prif bwynt cyswllt ynghylch pob mater aelodaeth yw’r Tîm Aelodaeth yn info@taipawb.org / 02921 057 957.

9. Preifatrwydd

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn cwmpasu sut y mae Tai Pawb yn prosesu a storio data personol ei aelodau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall yr wybodaeth hon yn llawn cyn cadarnhau eich aelodaeth. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi hwn yn cael eu cyfathrebu â chi, ac ni fydd unrhyw newidiadau mawr yn digwydd heb ymgynghori â chi.

Byddwn yn cadw gwybodaeth gyswllt ar gyfer y ‘Prif Unigolyn Cyswllt’ a neilltuwyd i chi ac mae hyn yn hanfodol i ni allu cyfathrebu’n effeithiol a chyflawni ein cyfrifoldebau fel darparwyr aelodaeth. Byddwn ond yn cadw gwybodaeth a roddwch i ni drwy ein ffurflen ar-lein, a bydd hyn yn cael ei gadw’n ddiogel ar ein gweinydd lleol.

Sut rydym yn diogelu eich data personol?

Rydym yn cymryd rhagofalon priodol i ddiogelu eich data personol rhag colled, camddefnydd, mynediad heb awdurdod, newid, datgelu a dinistrio yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE (GDPR). Fodd bynnag, ni allwn warantu y bydd unrhyw ddata a drosglwyddir 100% yn ddiogel ac ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch. Rydych yn trosglwyddo data ar eich menter eich hun.

Er gwybodaeth, nid yw e-byst a gohebiaeth electronig arall yn ddiogel os nad ydynt wedi’u hamgryptio, a gallai eich gohebiaeth fynd drwy nifer o weinyddion o fewn nifer o awdurdodaethau gwledydd cyn iddi ein cyrraedd ni. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw fynediad heb awdurdod neu golli data personol sy’n deillio o achos y tu hwnt i’n rheolaeth, ac ni ellir ein dwyn yn gyfrifol am weithrediadau neu hepgoriadau trydydd partïon a allai gamddefnyddio eich data personol os byddant yn cael eu casglu’n anghyfreithlon o’r safle hon.

Am ba hyd y byddwn yn cadw’r data?

Byddwn yn cadw’r data hyn am hyd at ddwy flynedd ar ôl i’ch aelodaeth ddod i ben. Mae hyn at ddibenion anfonebu ac archwilio. Y tu hwnt i’r rhesymau hyn, ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol i unrhyw drydydd parti arall.

Os yw’r Prif Unigolyn Cyswllt yn dymuno i’w fanylion gael eu dileu, byddwn yn gofyn am enw arall. Os na ellir canfod unigolyn amgen, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu gwneud cais am eich holl fuddion aelodaeth. Os gellir canfod unigolyn amgen, byddwn yn dileu’r data personol cyn gynted ag y darperir y manylion newydd.

Beth yw eich hawliau?

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE, mae gennych hawl i gael mynediad at yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch. I wneud cais am yr wybodaeth hon, anfonwch e-bost at info@taipawb.org gyda’ch enw llawn a manylion yr hyn sydd ei angen arnoch.

Bydd derbyn yr wybodaeth hon am ddim yn gyffredinol, ond mae Tai Pawb yn cadw’r hawl i godi ffi resymol os ystyrir bod y cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, yn enwedig os yw’n ailadroddus. Gellir codi ffi hefyd ar gyfer copïau pellach o’r un wybodaeth. Fodd bynnag, bydd y ffioedd hyn yn seiliedig ar y gost weinyddol o ddarparu’r wybodaeth hon yn unig.

Os credwch fod unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir ar unwaith.

Mae gennych hawl hefyd i gael eich gwybodaeth bersonol wedi’i dileu. Cysylltwch â ni os hoffech i hyn ddigwydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni yn info@taipawb.org neu 02921 057 957.

Os dymunwch wneud cwyn ynghylch aelodaeth, gellir canfod ein proses gwynion.

Os nad ydych yn fodlon â hyn, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch ddefnyddio’r ddolen hon hefyd i ddysgu mwy am eich hawliau.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.