Mae platfform e-ddysgu Tai Pawb, Hwb, yn ategu ein cynnig hyfforddiant ac ymgynghori. Mae’r holl gyrsiau wedi’u cynllunio gan staff arbenigol a chymdeithion sydd â phrofiad helaeth yn y sectorau tai a thegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid tai ac EDI i greu ystod o becynnau e-ddysgu sy’n ymdrin â phynciau EDI sy’n gysylltiedig â pholisi, arfer a gweithdrefnau yn y sector tai, fel y bydd eich tîm yn teimlo’n fwy cyfarparedig, yn fwy gwybodus ac yn fwy grymus i greu sector tai mwy cynhwysol.
I siarad â rhywun am becynnau e-ddysgu, cysylltwch â ni.
Mae’r ddolen yn agor taipawb-hwb.org mewn tab newydd
Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
Byddwch y cyntaf i wybod am y newidiadau diweddaraf yng nghyfraith tai Cymru.
Pam dewis Tai Pawb ar gyfer ymgynghori?
- Arbenigedd sector y gallwch ddibynnu arno
- Wedi'i seilio ar brofiad byw
- Ymarferol, nid dim ond damcaniaethol
- Wedi'i deilwra i'ch sefydliad
- Partner mewn newid a chefnogaeth hirdymor
“Mae bod yn aelod o Tai Pawb wedi bod yn brofiad gwych i’n sefydliad. Rydym wedi elwa o hyfforddiant, cyfarfodydd rhwydwaith ac rydym wedi cwblhau’r achrediad QED gyda Tai Pawb. Mae holl dîm Tai Pawb wedi bod yn hynod o barod i helpu ac yn barod bob amser i roi adborth ac arweiniad defnyddiol, gan ein cefnogi i ymdrechu bob amser i wneud mwy fel cyflogwr a landlord cynhwysol.”