Strategaeth 2026-2030
Y Realiti: Mae ein strategaeth yn dechrau gyda dealltwriaeth glir o’r realiti sy’n wynebu Cymru.
- Mae Cymru mewn argyfwng tai Nid mater bach yw hwn. Mae’n her gymdeithasol ac economaidd arwyddocaol. Mae gormod o bobl yn methu cael cartref diogel, addas a fforddiadwy ac mae cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach yn teimlo’r pwysau.
- Mae’r argyfwng yn gymhleth ac yn rhynggysylltiedig Mae mwy iddi na chyflenwad. Rhaid ystyried argaeledd, cynnydd mewn digartrefedd, rhenti uchel ac ansicr, cartrefi anaddas neu anhygyrch, effaith ar yr iaith Gymraeg a rhai o’r cartrefi gwaethaf eu hansawdd yn y DU.
- Mae cartref yn sail i bopeth arall Heb dai, mae systemau eraill yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
Mae’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn teimlo’r pwysau yn uniongyrchol (drwy effaith tai gwael ar iechyd) ac yn anuniongyrchol (gan fod angen dargyfeirio adnoddau prin i reoli argyfyngau sy’n gysylltiedig â thai). Mae’r pwysau hwn hefyd yn siapio dadl gyhoeddus, gan arwain at raniadau, gwybodaeth anghywir a gweld bai pan fydd achosion yr argyfwng tai yn cael eu camddeall. - Mae cartref yn bwysig iawn i bobl Mae’n fater o bwys mawr i’r cyhoedd, a hynny’n gyson. Daw ei bwysigrwydd hyd yn oed yn fwy dybryd pan fydd pobl yn wynebu pwysau ariannol, ansicrwydd o ran gwaith, tlodi neu ddewisiadau cyfyngedig o ran tai. Mae cartref sefydlog, fforddiadwy ac o safon yn siapio bywydau pobl a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac mae’n hanfodol i roi gobaith i blant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
- Mae ein cartrefi a’n dyfodol yn cael eu hail-lunio, a hynny’n gyflym Bydd newid hinsawdd, datgarboneiddio, deallusrwydd artiffisial a systemau digidol yn siapio’r hyn a olygir wrth gartref, sut mae tai’n cael eu darparu a phwy sy’n elwa o newid. Mae’r newidiadau hyn yn dod â chyfleoedd go iawn yn eu sgil, ond dim ond os yw tegwch yn cael ei ystyried o’r cychwyn cyntaf.
Beth mae hyn yn ei olygu: Y bobl sy’n wynebu’r effaith fwyaf yw’r rhai sydd eisoes yn wynebu anfantais, gwahaniaethu neu allgáu. Mae ansicrwydd o ran tai a chartrefi gwael eu hansawdd yn dyfnhau anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod, gan effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, incwm, addysg, diogelwch a chyfleoedd bywyd.
Mae tlodi yn gyrru ansicrwydd ym maes tai ac yn atgyfnerthu hynny, gan roi’r baich mwyaf ar y rhai sydd â’r lleiaf o wydnwch ariannol. Mae hefyd yn golygu bod llawer o aelwydydd yn cael eu dal rhwng systemau: yn methu fforddio bod yn berchen ar dŷ, yn annhebygol o gael blaenoriaeth ar gyfer tŷ cymdeithasol, ac yn ddibynnol ar rentu preifat ansicr, sy’n aml yn anfforddiadwy.
Mae hyn yn golygu nad mater o gyflenwad yn unig yw’r argyfwng tai. Mae hefyd yn fater o degwch, hawliau dynol a thlodi, wedi’i siapio gan bwy sydd â mynediad at gartrefi saff, diogel, addas, fforddiadwy a hygyrch a phwy sydd fwyaf tebygol o gael ei adael yn aros, heb lais, heb gefnogaeth gan y system.
“Nod y strategaeth hon yw gwneud yn siŵr bod uchelgais a realiti yn aros law yn llaw. Gwyddom fod y sector dan
bwysau, a gwyddom mai sefydliad bach yw Tai Pawb ac mai dim ond hyn a hyn o allu sydd ganddo. Mae hynny’n gwneud ffocws yn bwysicach byth. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ein hegni ar yr hyn sy’n gallu ychwanegu’r gwerth mwyaf: dylanwadu ar y systemau sy’n siapio bywydau pobl, cefnogi aelodau i droi ymrwymiadau yn ymarfer, cryfhau rôl profiad bywyd, a datblygu cydarweinyddiaeth ar draws y sector.”
“Bydd newid parhaol yn dibynnu ar aelodau, partneriaid, cymunedau, arweinwyr a phobl â phrofiad bywyd yn gweithredu gyda’i gilydd. Ein cyfraniad ni yw helpu i greu’r amodau ar gyfer y newid hwnnw: gyda thystiolaeth,
cefnogaeth ymarferol, perthnasoedd dibynadwy a chred gadarn y dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref da.”
Ein dogfen strategaeth
Equality, Diversity and Inclusion
Our EDI strategy and plan describe the areas of equality, diversity and inclusion which we will improve, prioritise or focus on until 2026.
This strategy covers: embedding EDI in on our internal ways of working with staff; embedding EDI in the way we carry out our work, how our services and functions are delivered. It does NOT cover how we will promote equality, diversity and inclusion in housing in Wales – this is described in Tai Pawb Strategy.
This strategy is a plan of priorities and actions. Our day-to-day EDI commitments, principles and guarantees are contained in our EDI policy.
EDI Statistics
We have also committed to publishing statistics on our diversity each year.