Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Cefnogwch y Bil

Mae tai mewn argyfwng yng Nghymru. Mae digwyddiadau domestig a byd-eang wedi gwaethygu materion tymor hwy ar argaeledd cartrefi fforddiadwy o ansawdd o bob math o ddeiliadaeth . Gyda'r niferoedd uchaf erioed mewn llety dros dro a rhestr aros enfawr am dai cymdeithasol, rydym yn profi storm berffaith yng Nghymru.

Credwn mai'r hawl i dai digonol yw'r ateb hirdymor, cydgysylltiedig a chynaliadwy i'r heriau hyn.

back-the-bill

Ynglŷn â'r addewid hwn

Wedi’i ffurfio yn 2018 ar ôl trychineb Grenfell ac mewn ymateb i argyfwng tai sy’n gwaethygu, mae Cefnogi’r Bil yn glymblaid rhwng Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, a Shelter Cymru sy’n ymgyrchu i gyflwyno’r hawl i dai digonol i Gymru. Hyd yn hyn, rydym wedi cael cefnogaeth gan arweinwyr tai ac elusennau, academyddion, arbenigwyr polisi, a gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ystyried tai digonol yn hawl ddynol sylfaenol ac yn rhan o gael safon byw gweddus.

Rydym wedi gwneud cynnydd tuag at wireddu’r Hawl i Dai Digonol ers 2018. Fodd bynnag, hyd yn hyn nid yw’r cynigion wedi llwyddo i sicrhau ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu tai fel hawl ddynol..

Rydym yn gyffrous am y posibiliadau o ddeddfu ar Hawl i Dai Digonol yn y dyfodol agos, gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd. Cadwch lygad am ddiweddariadau Cefnogi’r Bil i ddysgu mwy am Hawl i Dai Digonol a chynnydd ar yr ymgyrch.

Agor PDF mewn tab newydd

Dangoswch eich ymrwymiad i degwch drwy lofnodi'r addewid.

Gofynnwn i chi ymuno â ni i alw am dai i gael eu cydnabod fel hawl sylfaenol yng Nghymru drwy gwblhau’r ffurflen gysylltiedig i fod yn llofnodwr i’r Hawl i Dai Digonol.

Llofnodwyr presennol

Michael Sheen
Actor ac ymgyrchydd
Mark Isherwood MS
Ar ran Ceidwadwyr Cymreig
Jane Dodds MS
Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Sian Gwenllian MS
Ar ran Plaid Cymru
Anthony Slaughter
Ar ran Green Party Cymru
Matt Downie
CEO, Crisis
A dros 400 yn rhagor.

Adnoddau sy'n gysylltiedig

Ni chafwyd hyd i unrhyw ddata

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am yr addewid hwn

Ni chafwyd hyd i unrhyw ddata

Fideo: Gwyliwch gyn-Gyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, yn siarad â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, am yr ymgyrch Cefnogi’r Bil a pham ei bod yn hanfodol bod hawl i dai digonol yn cael ei ymgorffori yng Nghyfraith Cymru

Rhai sefydliadau sydd wedi llofnodi

Gwybodaeth gysylltiedig

Mae rhai dolenni wedi'u marcio gyda'r eicon hwn yn agor mewn tab newydd

Tanysgrifiwch i gael diweddariadau

Tanysgrifiwch i Sgwrs, ein cylchlythyr bob pythefnos, i gael diweddariadau ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn tai, gan gynnwys adnoddau ac arferion gorau, a chyfleoedd i gymryd rhan.
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.