Mae Tai Pawb yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau hyfforddi ac ymgynghori wedi'u teilwra i anghenion sefydliadau sy'n gweithio ym maes tai.
Mae ein hyfforddiant tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewnol yn boblogaidd iawn ac wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y sector tai. Mae cyrsiau'n cwmpasu ystod eang o bynciau ymarferol a gellir eu cyflwyno yn bersonol neu'n rhithwir i weddu i'ch anghenion.
Archwiliwch ein pedwar gwasanaeth isod - Hyfforddiant, Ymgynghoriaeth, Gadewch i ni Drafod... ac e-Ddysgu - a gweld sut y gall ein tîm arbenigol gefnogi eich taith tuag at sector tai mwy cynhwysol.
“Mae bod yn aelod o Tai Pawb wedi bod yn brofiad gwych i’n sefydliad. Rydym wedi elwa o hyfforddiant, cyfarfodydd rhwydwaith ac rydym wedi cwblhau’r achrediad QED gyda Tai Pawb. Mae holl dîm Tai Pawb wedi bod yn hynod o barod i helpu ac yn barod bob amser i roi adborth ac arweiniad defnyddiol, gan ein cefnogi i ymdrechu bob amser i wneud mwy fel cyflogwr a landlord cynhwysol.”