Yn gyfrifol am y canlynol: Darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer gwasanaethau aelodau, cynhyrchu incwm a phrosiectau partneriaeth Tai Pawb, gan sicrhau darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cefnogaeth aelodaeth gref a chydweithrediadau effeithiol. Mae Vicki hefyd yn arwain ar Wobr QED arobryn Tai Pawb.
Profiad a Diddordebau: Mae Vicki wedi gweithio yn y sector tai ers dros 20 mlynedd, gan ddechrau ym maes cynnal a chadw a thai sector preifat yng Nghyngor Caerdydd a chymdeithas dai yng Nghaerdydd, lle bu’n bennaeth dau wasanaeth digartrefedd ac asiantaeth tai. Darparwyd y gwasanaethau hyn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghaerdydd, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.
Mae ganddi BSc (Anrh) mewn Seicoleg ac MSc mewn Tai ac Ymarfer Proffesiynol o Brifysgol Caerdydd. Mae Vicki wedi bod yn rhan o Tai Pawb ers 2020 ac, y tu allan i’r gwaith, mae’n caru te, anifeiliaid, a rheoli’r adran logisteg brysur a elwir fel arall yn galendrau cymdeithasol ei merched. Mae hi’n angerddol am greu Cymru decach lle gall pawb ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.