Mae’r sesiwn 60 munud hon yn rhan o’n cyfres Gadewch i ni Drafod… ac yn cyflwyno’r cysyniad o rhyngblethedd mewn ffordd glir a hygyrch.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu ar draws naw nodwedd warchodedig, sy’n aml yn cael eu hystyried ar wahân. Mae rhyngblethedd yn cydnabod bod pobl yn profi sawl agwedd ar hunaniaeth ar yr un pryd a bod gwahaniaethu ac anfantais yn gallu gorgyffwrdd a rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth.
Mae’r sesiwn hon yn cefnogi cyfranogwyr i ddeall sut y gall hunaniaethau sy’n rhyngblethu llunio profiadau pobl o wasanaethau, gwaith a sefydliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol, anogir cyfranogwyr i ystyried sut y gall data, polisi ac ymarfer anwybyddu’r rhai sy’n gorwedd ar groesffyrdd sawl math o anfantais.
Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar pam mae dull rhyngblethedd yn bwysig a sut y gall gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol, teg a chynhwysol mewn sefydliadau.
Gellir teilwra’r sesiynau i gyd-destun y sefydliad.