Mae’r sesiwn 60 munud hon yn rhan o’n cyfres Gadewch i ni Drafod… ac yn canolbwyntio ar y rôl y mae iaith yn ei chwarae wrth lunio agweddau, ymddygiad a pherthnasoedd yn y gwaith ac mewn gwasanaethau.
Mae iaith yn offeryn pwerus. Gall y geiriau rydyn ni’n eu defnyddio gyfathrebu parch a chynhwysiant, ond gallant hefyd atgyfnerthu stereoteipiau, allgáu neu droseddu, yn aml heb fwriad. Mae’r sesiwn hon yn cefnogi cyfranogwyr i fyfyrio ar sut mae iaith yn effeithio ar gydweithwyr, cwsmeriaid, partneriaid a chymunedau.
Mae’r sesiwn yn archwilio sut y gall labeli, terminoleg ac ymadroddion a ddefnyddir yn gyffredin effeithio ar bobl yn wahanol, a pham y gall geiriau neu ymadroddion penodol achosi niwed.
Anogir cyfranogwyr i ystyried dadleuon ynghylch iaith, gan gynnwys yr hyn a elwir yn ‘gywirdeb gwleidyddol’, ac i archwilio sut mae dewisiadau iaith yn cysylltu â chydraddoldeb, urddas a chynhwysiant.
Mae’r sesiwn yn darparu lle i fyfyrio a thrafod, gan helpu cyfranogwyr i feithrin mwy o hyder wrth ddefnyddio iaith gynhwysol, barchus mewn arferion bob dydd.