Mae’r sesiwn 60 munud hon yn rhan o’n cyfres Gadewch i ni Drafod… ac yn darparu cyflwyniad hygyrch i gynhwysiant traws ac anneuaidd.
Wedi’i hwyluso gan berson trawsryweddol neu anneuaidd, mae’r sesiwn yn cefnogi cyfranogwyr i ddeall yn well beth mae’n ei olygu i fod yn drawsryweddol neu’n anneuaidd, a sut y gellir profi allgáu a rhwystrau mewn gweithleoedd, tai a gwasanaethau.
Mae’r ffocws ar gynhwysiant ymarferol, bob dydd. Mae cyfranogwyr yn archwilio iaith, ymddygiad ac arferion sefydliadol, ac yn ystyried sut y gall y rhain effeithio ar gydweithwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth traws ac anneuaidd. Mae’r sesiwn yn cynnwys amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth ac mae wedi’i chynllunio i adeiladu hyder, ymwybyddiaeth ac arferion parchus.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff ar bob lefel sydd am wella eu dealltwriaeth o gynhwysiant pobl draws a phobl an-ddeuaidd. Mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio gyda chydweithwyr, cwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.