Mae’r sesiwn 60 munud hon yn rhan o’n cyfres Gadewch i ni Drafod… ac mae’n archwilio rôl cellwair mewn diwylliant yn y gweithle.
Gall cellwair fod yn ffordd o adeiladu perthnasoedd a rhannu dealltwriaeth yn y gweithle. Fodd bynnag, pan fydd ffiniau’n aneglur neu yn cael eu hanwybyddu, gall achosi tramgwydd, atgyfnerthu allgáu, neu fod yn gyfystyr â bwlio neu wahaniaethu.
Nid yw’r sesiwn ryngweithiol hon yn hyrwyddo diwylliant ‘dim cellwair’ neu ‘dim jôcs’. Yn hytrach, mae’n cefnogi cyfranogwyr i ddeall beth yw cellwair, beth nad ydyw, a sut y gall wahanol bobl ei brofi’n wahanol. Mae’r sesiwn yn archwilio enghreifftiau bywyd go iawn ac yn ystyried sut i ymateb pan fydd cellwair yn croesi’r llinell.
Mae cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i fyfyrio ar eu cyd-destun gweithle eu hunain ac ystyried camau ymarferol i gefnogi amgylcheddau parchus, cynhwysol.
Gellir teilwra’r sesiynau i gyd-destun y sefydliad.