Mae uwch arweinwyr ac aelodau’r Bwrdd yn chwarae rôl hanfodol wrth osod diwylliant sefydliadol a datgymalu rhwystrau systemig. Mae’r cwrs hwn yn cefnogi arweinwyr i ymgorffori gwrth-hiliaeth mewn blaenoriaethau strategol ac ymarfer llywodraethu, gan symud o ymwybyddiaeth i weithredu parhaus.
Mae’r cwrs yn adeiladu ar ddysgu o’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys ac mae’n cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad Gweithredoedd Nid Geiriau i weithredu. Mae hefyd yn cefnogi sefydliadau i fodloni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae’r sesiwn yn archwilio hiliaeth a gwrth-hiliaeth mewn cyd-destun sefydliadol a sectorol, gan gydnabod y bydd blaenoriaethau a gweithredoedd yn amrywio yn dibynnu ar gymunedau, daearyddiaeth, gweithlu a rhanddeiliaid. Bydd cyfranogwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o hiliaeth a’i effaith, ac yn meithrin hyder wrth gynnal sgyrsiau gwybodus, myfyriol ac weithiau heriol.
Mae trafodaethau a gweithgareddau rhyngweithiol yn darparu lle ar gyfer myfyrio beirniadol, dysgu a rennir ac ystyried arweinyddiaeth, llywodraethu a gweithredu cadarnhaol.
Gellir teilwra’r sesiynau i gyd-destun y sefydliad a’u cyflwyno fel gweithdy annibynnol.