Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Gadewch i ni Drafod… Cellwair yn y Gweithle

Profiad bywyd
Talwyd
Wyneb yn wyneb, Arlein
Aelodau yn unig
Pryd mae cellwair (tynnu coes) yn stopio bod yn ddiniwed ac yn dechrau achosi niwed? Mae'r sesiwn fer hon yn archwilio ble mae'r llinell, pam mae'n bwysig, a sut i ymateb pan fydd cellwair yn y gweithle'n croesi'r llinell honno.

Amcanion y Cwrs

Mae’r sesiwn 60 munud hon yn rhan o’n cyfres Gadewch i ni Drafod… ac mae’n archwilio rôl cellwair mewn diwylliant yn y gweithle.

Gall cellwair fod yn ffordd o adeiladu perthnasoedd a rhannu dealltwriaeth yn y gweithle. Fodd bynnag, pan fydd ffiniau’n aneglur neu yn cael eu hanwybyddu, gall achosi tramgwydd, atgyfnerthu allgáu, neu fod yn gyfystyr â bwlio neu wahaniaethu.

Nid yw’r sesiwn ryngweithiol hon yn hyrwyddo diwylliant ‘dim cellwair’ neu ‘dim jôcs’. Yn hytrach, mae’n cefnogi cyfranogwyr i ddeall beth yw cellwair, beth nad ydyw, a sut y gall wahanol bobl ei brofi’n wahanol. Mae’r sesiwn yn archwilio enghreifftiau bywyd go iawn ac yn ystyried sut i ymateb pan fydd cellwair yn croesi’r llinell.

Mae cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i fyfyrio ar eu cyd-destun gweithle eu hunain ac ystyried camau ymarferol i gefnogi amgylcheddau parchus, cynhwysol.

Gellir teilwra’r sesiynau i gyd-destun y sefydliad.

Crynodeb

Dosbarthu

Wyneb yn wyneb, Arlein

Fformat

Wedi'i Hwyluso

Cynulleidfa darged

Hyd

Archebwch y cwrs hyfforddi hwn

I archebu’r cwrs hyfforddi hwn, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen isod.

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cytuno eich bod wedi darllen, deall a derbyn ein polisi preifatrwydd a’n bod yn gallu ymateb i chi. Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd a Thelerau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.