Mae gan Mariam dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws tai a sefydliadau’r trydydd sector, gan ganolbwyntio ar atal digartrefedd, tai â chymorth, iechyd meddwl, ac atal cam-drin domestig. Ar hyn o bryd mae Mariam yn Bennaeth Gwasanaeth (Cwm Taf Morgannwg a’r Fro) ar gyfer Llamau, Elusen Digartrefedd Ieuenctid Fwyaf Cymru.
Yn flaenorol, roedd gan Mariam rolau amrywiol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol gwasanaethau Cam-drin Domestig ar gyfer BAWSO, elusen flaenllaw yng Nghymru sy’n cefnogi pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd. Mae Mariam hefyd wedi bod yn aelod gweithgar o Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Gwent, wedi cyd-gadeirio grŵp gwrth-gaethwasiaeth Gwent, ac wedi eistedd ar fwrdd MEWN Cymru. Mae gan Mariam BSc (ANRH) mewn Seicoleg ac MSc mewn Cyfrifiadureg ac wedi gweithio ym maes datblygu meddalwedd cyn ymuno â’r trydydd sector.
Fel menyw Ddu, Affricanaidd, Mwslimaidd, mae gan Mariam brofiad uniongyrchol o’r heriau sy’n wynebu grwpiau ymylol. Mae hi’n eiriolwr angerddol dros newid a gwella i’r sectorau tai a chymorth, yn enwedig o amgylch materion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.