Mae gan Helen dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain yn y sector tai yng Nghymru. Gan weithio ar lefel Bwrdd a thîm Gweithredol, mae hi wedi dal cyfrifoldeb uniongyrchol am reoli tai, tai â chymorth, gwasanaethau’r sector preifat, cynnal a chadw, contractwr mewnol, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata a TG. Mae hi’n deall cymhlethdod a heriau cyflawni’r newid personol a diwylliannol sydd ei angen ar wella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae ganddi Ddiploma Ôl-raddedig mewn Tai ac MBA. Yn 2020 enillodd MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac mae’n seicotherapydd cofrestredig UKCP. Mae ganddi ddiddordeb mewn unigolion yn ogystal â sefydliadau, a sut i oresgyn y rhwystrau i newid.