Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Bethan Roberts

Partner Cyswllt

Mae Bethan yn siaradwr Cymraeg rhugl o Ogledd Cymru, ac wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant ar Degwch ac Amrywiaeth am dros 20 mlynedd, gyda ffocws ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Cyn hynny, bu’n gweithio i dri chomisiwn cydraddoldeb statudol am dros 15 mlynedd, ac mae wedi cael ei chontractio gan ystod o gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys Comisiwn Pobl Hลทn yng Nghymru, Civil Service Learning, Prifysgolion Caerdydd a Bangor a’r GIG.
Mae Bethan yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (wedi’i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ers 2008). Mae hi hefyd yn diwtor iechyd meddwl ar gyfer cyrsiau TAR Prifysgol Caerdydd ac yn cynnal hyfforddiant iechyd meddwl ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae Bethan wedi bod yn Aelod o’r Tribiwnlys Cyflogaeth ers 2010. Mae ei chymwysterau yn cynnwys MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, MA mewn Astudiaethau Menywod (Cymhwysol) ac MSc mewn Economeg Iechyd.

Cysylltwch รข Bethan heddiw

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.