Yn gyfrifol am y canlynol: Rheoli perthnasoedd cadarnhaol ag aelodau trwy gydol cylch bywyd yr aelodaeth, cynnal a gwella perthnasoedd presennol wrth nodi ac ymgysylltu รข darpar aelodau newydd. Un prif ffocws y rรดl hon yw arwain datblygiad a chyflenwi ein gwasanaethau, gan gynnwys ein marc ansawdd QED arobryn, gan sicrhau ei lwyddiant a’i effaith.
Profiad a Diddordebau: Ymunodd Anna รข Tai Pawb yn 2022 i redeg ein prosiect Hyrwyddwyr Sector Rhentu Preifat yng Ngwent. Cyn hyn, bu’n gweithio fel athrawes ysgol gynradd yng Nghymru a Lloegr, cyn ymuno รข darpariaeth addysg รดl-16 mewn elusen ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru. Astudiodd Anna Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gydag Addysg yng Nghaerwysg cyn cwblhau ei hyfforddiant athrawon yng Nghaerfaddon a Bryste. Cyrhaeddodd yn รดl i Gymru yn 2015 ac mae wedi gweithio ym maes tai yma ers hynny. Yn ddiweddar, ymunodd Anna รข’n tรฎm Aelodaeth fel Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ac Aelodaeth. Mae diddordeb Anna mewn cydraddoldeb tai yn un hirsefydlog ac mae hi wrth ei bodd yn rhan o newid ystyrlon yn y sector, yn enwedig o amgylch hyfforddiant a datblygu. Y tu allan i’r gwaith, mae Anna yn mwynhau darllen, coginio, cerddoriaeth fyw ac unrhyw beth sy’n cynnwys bod yn yr awyr agored!