Ynglŷn â'r addewid hwn
Wedi’i ffurfio yn 2018 ar ôl trychineb Grenfell ac mewn ymateb i argyfwng tai sy’n gwaethygu, mae Cefnogi’r Bil yn glymblaid rhwng Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, a Shelter Cymru sy’n ymgyrchu i gyflwyno’r hawl i dai digonol i Gymru. Hyd yn hyn, rydym wedi cael cefnogaeth gan arweinwyr tai ac elusennau, academyddion, arbenigwyr polisi, a gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ystyried tai digonol yn hawl ddynol sylfaenol ac yn rhan o gael safon byw gweddus.
Rydym wedi gwneud cynnydd tuag at wireddu’r Hawl i Dai Digonol ers 2018. Fodd bynnag, hyd yn hyn nid yw’r cynigion wedi llwyddo i sicrhau ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu tai fel hawl ddynol..
Rydym yn gyffrous am y posibiliadau o ddeddfu ar Hawl i Dai Digonol yn y dyfodol agos, gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd. Cadwch lygad am ddiweddariadau Cefnogi’r Bil i ddysgu mwy am Hawl i Dai Digonol a chynnydd ar yr ymgyrch.
Agor PDF mewn tab newydd
Dangoswch eich ymrwymiad i degwch drwy lofnodi'r addewid.
Gofynnwn i chi ymuno â ni i alw am dai i gael eu cydnabod fel hawl sylfaenol yng Nghymru drwy gwblhau’r ffurflen gysylltiedig i fod yn llofnodwr i’r Hawl i Dai Digonol.
Llofnodwyr presennol
Adnoddau sy'n gysylltiedig
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am yr addewid hwn
Fideo: Gwyliwch gyn-Gyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, yn siarad â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, am yr ymgyrch Cefnogi’r Bil a pham ei bod yn hanfodol bod hawl i dai digonol yn cael ei ymgorffori yng Nghyfraith Cymru