Mae’r sesiwn hon yn rhoi cipolwg ar ein cwrs hanes hanner diwrnod LHDTCRhA+ ac yn cynnig cyflwyniad hygyrch i’r cyd-destun hanesyddol sy’n llunio profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, rhyngrywiol, anrhywiol, panrywiol a phobl LHDTCRhA+ eraill.
Mae’r cwrs yn archwilio cyfnodau allweddol yn hanes LHDTCRhA+, gan gynnwys mudiadau cymdeithasol, deddfwriaeth a newidiadau mewn hawliau hyd heddiw. Mae cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i ddeall sut mae gwahaniaethu hanesyddol yn parhau i ddylanwadu ar agweddau, polisi a phrofiad byw mewn gweithleoedd, cymunedau a lleoliadau tai cyfoes.
Mae’r sesiwn hefyd yn ystyried effaith rhagfarn, yn y gorffennol a’r presennol, ac yn annog myfyrio ar pam mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i unigolion, sefydliadau a chymunedau. Cefnogir cyfranogwyr i gydnabod allgáu a gwahaniaethu ac i ddeall y rôl y gall sefydliadau ei chwarae wrth greu amgylcheddau mwy teg a chynhwysol.
Gellir teilwra’r sesiynau i gyd-destun y sefydliad.