Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru

Llais, Dewis a Chartref: Cynhadledd Flynyddol Tai Pawb 2026

09/06/2026 | 12:00 | Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia

MAE'R GYNHADLEDD HON WEDI DOD I BEN.

Peidiwch â cheisio prynu tocynnau.

Eleni, rydym yn dod at ein gilydd fel cydweithwyr tai i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: ein tenantiaid a'n cymunedau. Rydym yn cymryd yr amser i wrando, hyrwyddo llais tenantiaid, a sicrhau bod cartref pawb yn ddiogel ac yn hygyrch.
Yn ei hanfod, mae EDI yn ymwneud â chydnabod ac ymateb i anghenion pob unigolyn fel bod gan bawb gyfle teg i ffynnu.
Mae ein Cynhadledd yn gyfle i rannu dysgu, cryfhau perthnasoedd a chasglu'r offer a'r ysbrydoliaeth i sbarduno newid ystyrlon sy'n canolbwyntio ar bobl.

Wedi'i noddi gan:

Speicwyr wedi'u cadarnhau

Dr Mena Fombo (Hon), Sylfaenydd I Hwylusydd | Cyfarwyddwr Ffilm I Tai, Diwylliant a Chynhwysiant I D.G.B Anh
Fel Pennaeth Diwylliant a Chynhwysiant Cartrefi Cymoedd Merthyr, mae Dr Mena Fombo (anh) yn darparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau bod CCM yn Gymdeithas Tai Gydfuddiannol wirioneddol gynhwysol. Yn ogystal â hyn, mae hi’n sylfaenydd, yn gyfarwyddwr ffilm, yn ymgynghorydd amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn hwylusydd.
Hi yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Black Girl Convention ac mae’n gyd-sylfaenydd Blak Wave Productions. Mae hi’n aelod sydd â’r hawl i bleidleisio yn BAFTA, ac yn siaradwr TEDx.
Yn sail i holl waith Mena mae ei hymrwymiad i hyrwyddo ac ymgyrchu dros degwch, amrywiaeth, cynrychiolaeth a Chynhwysiant.
Mena Fombo credit Tasha Hylton(1)
Proessor Matt Williams, Sylfaenydd a Phrif Wyddonydd nisien.ai a Chyfarwyddwr HateLab I Awdur The Science of Hate I Athro Troseddeg
Mae Matt wedi astudio troseddau casineb ers 20 mlynedd, wedi rheoli’r astudiaeth bwrpasol fwyaf o erledigaeth casineb yn y DU, ac mae’n Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Matt yn cael ei ystyried yn eang yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar fathau cyfoes o gasineb a seiberdroseddu, gan roi cyngor i TikTok, Google, Swyddfa Gartref y DU, a British Telecom i enwi dim ond rhai; ac mae’n defnyddio ei brofiad ei hun fel dioddefwr casineb ar-lein ac all-lein.
Mae’n Gyfarwyddwr HateLab, canolfan fyd-eang ar gyfer data a mewnwelediad i fonitro a gwrthsefyll iaith a throseddau casineb ar-lein. Yn 2023, sefydlodd nisien.ai, gan wreiddio tystiolaeth wyddonol o’r radd flaenaf mewn hyfforddiant ac ymyriadau i fynd i’r afael â niwed ar-lein.
Matt-Pic-886x1024
Euella Jackson, Cyflwynydd, Cynhyrchydd Creadigol a Gwneuthurwr Ffilmiau I Cyd-gyfarwyddwr Rising Arts Agency
Mae Euella Jackson yn gyflwynydd, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gynhyrchydd creadigol ym Mryste, y DU sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o gyfryngau a gofodau i wthio am straeon mwy amrywiol a gwell cynrychiolaeth ar draws y sector diwylliannol a chreadigol. Fel gwneuthurwr ffilmiau a storïwr, mae Euella yn credu bod adrodd straeon yn rhan ganolog o’i hymgyrch ac mae wedi cefnogi nifer o brosiectau fel awdur / cyfarwyddwr a chynhyrchydd.
Cafodd ffilm Euella, sef Capsule, ei gomisiynu gan Bartneriaeth Hinsawdd a Natur Bryste i archwilio Pontio Teg drwy lygaid plentyn ifanc a’i nain.
Euella Jackson, cred - Izzy Carveth
Jayne Bryant MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae Jayne yn ymwneud â gwleidyddiaeth ers pan oedd hi’n 17 oed, a chafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd am y tro cyntaf yn 2016. A hithau’n angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, mae Jayne yn ymgyrchydd brwd ar faterion fel iechyd a llesiant; yr amgylchedd a newid hinsawdd; a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Mae Jayne yn gyn-Weinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, wedi bod yn Gadeirydd ar nifer o Bwyllgorau’r Senedd, ac wedi eistedd ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Jayne Bryant 3

Eisiau gwybodaeth am y digwyddiadau diweddaraf?

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et.
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.