Mae eich sefydliad wedi cyflawni QED ac wedi ymgorffori Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Beth nesaf?
Mae Gwobr Arweinwyr QED ar gyfer sefydliadau sydd wedi cynnal eu Gwobr QED yn llwyddiannus am dair blynedd ac sy’n dymuno mynd â’u hymrwymiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant i’r lefel nesaf.
Awardees include:
Mae cyfrifoldeb am weithredu ystyrlon yn gorwedd gyda’r rhai sydd ar y brig.
Mae arweinyddiaeth effeithiol a chynhwysol yn hanfodol i gyflawni newid ar Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae Arweinwyr QED yn canolbwyntio’n benodol ar hyn fel sylfaen ar gyfer sefydliadau effeithiol.
Bydd gweithredu ystyrlon yn digwydd dim ond os yw’r cyfrifoldeb am degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn gorwedd gyda phobl ar y lefel uchaf, gyda mecanweithiau atebolrwydd cryf a gweladwy ar gyfer perfformiad ar y materion hyn.
Mae hyn yn dangos bod y sefydliad o ddifrif am y newid y mae am ei gyflawni ac yn sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd ar hyd y ffordd.
Mae amrywiaeth yn ffaith, mae cynhwysiant yn weithred.
Mae Arweinwyr QED yn canolbwyntio’n arbennig ar bwysigrwydd cael a chyhoeddi data amrywiaeth cadarn a’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio ar y lefel uchaf i yrru cynnydd.
Mae olrhain amrywiaeth yn gadarn, wedi’i oruchwylio a’i ‘brynu’ ar y lefel uchaf yn hanfodol i greu gwahaniaeth diriaethol dros amser.
Tra bod amrywiaeth yn ymwneud â chyfansoddiad y sefydliad, mae cynhwysiant yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n ei wneud gydag amrywiaeth. Mae sefydliadau amrywiol yn perfformio’n well ond dim ond ym mhresenoldeb ffocws rhagweithiol a mesuradwy ar ddiwylliannau cynhwysol lle mae gweithwyr a chwsmeriaid amrywiol yn ffynnu.
Gwrando yw’r ffurf fwyaf diffuant o barch.
Er mwyn cysylltu â, a chynrychioli, rhanddeiliaid amrywiol, mae angen i sefydliadau fod yn arweinwyr wrth wrando.
Nid yw’n ddigon i gyfathrebu ddilyn model o’r brig i lawr os mai ymarfer sy’n wirioneddol gynrychioliadol a chynhwysol yw’r nod.
Mae tegwch mewn sianeli lle gall rhanddeiliaid godi eu llais, cael eu clywed a chael effaith, yn dylanwadu ar benderfyniadau a chynllunio gan arwain at atebion mwy cynaliadwy.
Meistr pob gwaith yw ymarfer.
Mae’r sylfaen Ymarfer yn rhoi cyfle i’r sefydliad arwain ar brosiect tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant â ffocws er mwyn gwella gwasanaeth neu brofiad ar gyfer grŵp penodol o bobl/rhanddeiliaid.
Dylai’r prosiect fod yn uchelgeisiol ond nid oes gofyniad y dylai fod yn gymhleth a/neu fawr, dim ond ei fod yn cynhyrchu canlyniadau diriaethol a chadarnhaol i’r bobl/rhanddeiliaid. Gallai hwn fod yn brosiect y mae’r sefydliad yn gweithio arno ar hyn o bryd a/neu sydd ganddo yn ei gynllun corfforaethol.
Dylai cylch bywyd y prosiect redeg yn unol â hyd oes y dyfarniad QED (3 blynedd) ond er mwyn llwyddo i gyflawni Gwobr Arweinwyr QED, rhaid dangos rhywfaint o effaith yn glir ar 12 mis (ac yna’n flynyddol yn y cam adolygu).
Dylid cwblhau a rhannu dogfen cychwyn prosiect (DCP) ar ddiwedd cam 1.
Bydd trafodaeth a chytundeb yn digwydd yn ystod cam 2 a 3.
Mae’r broses wobrwyo Arweinwyr QED yn cynnwys 4 cham:
Mae cam cyntaf Arweinwyr QED yn cymryd tua thri mis ac mae’n dechrau’r daith o ddarganfod a myfyrio. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd arolygon cyfrinachol yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd, Uwch Arweinwyr a’r holl gydweithwyr.
Bydd hunan-ddiagnosteg gynhwysfawr sy’n ffurfio fframwaith Arweinwyr QED yn cael ei gwblhau a bydd y sefydliad yn dechrau nodi prosiect effaith i weithio arno.
Yr ail gam yw asesiad wedi’i hwyluso sy’n cynnwys ymgynghori rhwng yr Uwch Arweinwyr a Tai Pawb dros gyfnod o fis.
Mae’r sesiynau hyn yn ofod i fyfyrio, cefnogi a Herio.
Mae’r trydydd cam datblygu yn rhychwantu dau fis ac yn cwblhau’r gwaith y bydd y sefydliad yn ei wneud yn ystod cam 4 i gyflawni Arweinwyr QED.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd camau gweithredu’r cynllun newid, a’r prosiect effaith yn cael eu mireinio, eu cwblhau a’u cymeradwyo.
Bydd y pedwerydd cam yn cymryd tua deuddeg mis i’w gwblhau ac yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gweithio ar eich gweithredoedd a’ch prosiect effaith wrth dderbyn cefnogaeth a chyngor gan Tai Pawb.