Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai yng Nghymru
Ein cynlluniau

Ein cynlluniau

Rydym yn cychwyn o sylfaen gref. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi gwneud cynnydd pwysig ar hawliau ym maes tai, digartrefedd, tai cymdeithasol a chydraddoldeb, ac mae Tai Pawb yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i siapio’r newid hwnnw.

Er gwaethaf hyn, dwysáu mae’r argyfwng tai. Mae’r ddadl gyhoeddus yn dod yn fwy dadleuol, a’r bobl y mae annhegwch yn effeithio arnynt fwyaf sy’n cario’r baich mwyaf. Rôl Tai Pawb yw aros yn feiddgar, yn dosturiol ac yn gysylltiedig.

Ein tudalen cynlluniau

Strategaeth 2026-2030

Y Realiti: Mae ein strategaeth yn dechrau gyda dealltwriaeth glir o’r realiti sy’n wynebu Cymru.

  1. Mae Cymru mewn argyfwng tai Nid mater bach yw hwn. Mae’n her gymdeithasol ac economaidd arwyddocaol. Mae gormod o bobl yn methu cael cartref diogel, addas a fforddiadwy ac mae cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach yn teimlo’r pwysau.
  2. Mae’r argyfwng yn gymhleth ac yn rhynggysylltiedig Mae mwy iddi na chyflenwad. Rhaid ystyried argaeledd, cynnydd mewn digartrefedd, rhenti uchel ac ansicr, cartrefi anaddas neu anhygyrch, effaith ar yr iaith Gymraeg a rhai o’r cartrefi gwaethaf eu hansawdd yn y DU.
  3. Mae cartref yn sail i bopeth arall Heb dai, mae systemau eraill yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
    Mae’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn teimlo’r pwysau yn uniongyrchol (drwy effaith tai gwael ar iechyd) ac yn anuniongyrchol (gan fod angen dargyfeirio adnoddau prin i reoli argyfyngau sy’n gysylltiedig â thai). Mae’r pwysau hwn hefyd yn siapio dadl gyhoeddus, gan arwain at raniadau, gwybodaeth anghywir a gweld bai pan fydd achosion yr argyfwng tai yn cael eu camddeall.
  4. Mae cartref yn bwysig iawn i bobl Mae’n fater o bwys mawr i’r cyhoedd, a hynny’n gyson. Daw ei bwysigrwydd hyd yn oed yn fwy dybryd pan fydd pobl yn wynebu pwysau ariannol, ansicrwydd o ran gwaith, tlodi neu ddewisiadau cyfyngedig o ran tai. Mae cartref sefydlog, fforddiadwy ac o safon yn siapio bywydau pobl a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac mae’n hanfodol i roi gobaith i blant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
  5. Mae ein cartrefi a’n dyfodol yn cael eu hail-lunio, a hynny’n gyflym Bydd newid hinsawdd, datgarboneiddio, deallusrwydd artiffisial a systemau digidol yn siapio’r hyn a olygir wrth gartref, sut mae tai’n cael eu darparu a phwy sy’n elwa o newid. Mae’r newidiadau hyn yn dod â chyfleoedd go iawn yn eu sgil, ond dim ond os yw tegwch yn cael ei ystyried o’r cychwyn cyntaf.

Beth mae hyn yn ei olygu: Y bobl sy’n wynebu’r effaith fwyaf yw’r rhai sydd eisoes yn wynebu anfantais, gwahaniaethu neu allgáu. Mae ansicrwydd o ran tai a chartrefi gwael eu hansawdd yn dyfnhau anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod, gan effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, incwm, addysg, diogelwch a chyfleoedd bywyd.

Mae tlodi yn gyrru ansicrwydd ym maes tai ac yn atgyfnerthu hynny, gan roi’r baich mwyaf ar y rhai sydd â’r lleiaf o wydnwch ariannol. Mae hefyd yn golygu bod llawer o aelwydydd yn cael eu dal rhwng systemau: yn methu fforddio bod yn berchen ar dŷ, yn annhebygol o gael blaenoriaeth ar gyfer tŷ cymdeithasol, ac yn ddibynnol ar rentu preifat ansicr, sy’n aml yn anfforddiadwy.

Mae hyn yn golygu nad mater o gyflenwad yn unig yw’r argyfwng tai. Mae hefyd yn fater o degwch, hawliau dynol a thlodi, wedi’i siapio gan bwy sydd â mynediad at gartrefi saff, diogel, addas, fforddiadwy a hygyrch a phwy sydd fwyaf tebygol o gael ei adael yn aros, heb lais, heb gefnogaeth gan y system.

Alicja Zalesinska
Prif Weithredwr

“Nod y strategaeth hon yw gwneud yn siŵr bod uchelgais a realiti yn aros law yn llaw. Gwyddom fod y sector dan
bwysau, a gwyddom mai sefydliad bach yw Tai Pawb ac mai dim ond hyn a hyn o allu sydd ganddo. Mae hynny’n gwneud ffocws yn bwysicach byth. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ein hegni ar yr hyn sy’n gallu ychwanegu’r gwerth mwyaf: dylanwadu ar y systemau sy’n siapio bywydau pobl, cefnogi aelodau i droi ymrwymiadau yn ymarfer, cryfhau rôl profiad bywyd, a datblygu cydarweinyddiaeth ar draws y sector.”

Craig Stephenson OBE
Cadeirydd y bwrdd

“Bydd newid parhaol yn dibynnu ar aelodau, partneriaid, cymunedau, arweinwyr a phobl â phrofiad bywyd yn gweithredu gyda’i gilydd. Ein cyfraniad ni yw helpu i greu’r amodau ar gyfer y newid hwnnw: gyda thystiolaeth,
cefnogaeth ymarferol, perthnasoedd dibynadwy a chred gadarn y dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref da.”

Ein dogfen strategaeth

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae ein strategaeth a chynllun Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn disgrifio’r meysydd tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant y byddwn yn eu gwella, yn blaenoriaethu neu’n canolbwyntio arnynt tan 2026.

Mae’r strategaeth hon yn cwmpasu: ymgorffori Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein ffyrdd mewnol o weithio gyda staff; ymgorffori Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y ffordd yr ydym yn cyflawni ein gwaith, sut mae ein gwasanaethau a’n swyddogaethau yn cael eu darparu. NID yw’n ymdrin â sut y byddwn yn hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn tai yng Nghymru – disgrifir hyn yn Strategaeth Tai Pawb.

Mae’r strategaeth hon yn gynllun o flaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae ein hymrwymiadau, egwyddorion a gwarantau Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ddydd i ddydd wedi’u cynnwys yn ein polisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Ystadegau Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi ystadegau ar ein hamrywiaeth bob blwyddyn.

Ymunwch â dros 80 o aelodau

Cael mynediad at adnoddau, offer, hyfforddiant, cefnogaeth arbenigol a mewnwelediad a gynlluniwyd i helpu i droi ymrwymiad yn weithredu
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.